Rhaglen Digwyddiadau Wardeniaid Gwirfoddol 2018
Mawrth 5 Mehefin |
Adar Bridio Twyni Newton (maes parcio Beach Road 6.30 pm). Tro min nos i weld yr adar gydag arbenigwr lleol yn ystod Wythnos Natur Cymru. Dewch ag ysbienddrych gyda chi os oes gennych chi un. Cyfarfod ar faes parcio Beach Road am 6.30 pm (bydd y daith yn para oddeutu 1-2 awr). |
Sul 10 Mehefin |
Goroeswyr twyni tywod yng NgNG Cynffig. Dewch i wybod am rai o'r planhigion arbenigol sy'n byw yn y cynefin gelyniaethus hwn yn ystod wythnos Natur Cymru. |
Sadwrn 16 Mehefin |
Adar Bridio Comin Lock. Onid ydych chi'n gallu adnabod y gwahaniaeth rhwng yr ehedydd a chlochdar y cerrig? Dewch draw i’n taith adar y Gwanwyn a bydd y cyfan yn cael ei ddatgelu! Dewch ag ysbienddrych gyda chi os oes gennych chi un. |
Sadwrn 23 Mehefin |
Tynnu Balsam ym Merthyr Mawr Dewch draw i helpu i gael gwared ar rai o blanhigion Jac y Neidiwr yn un o dwyni tywod pwysicaf y Fwrdeistref Sirol. Digwyddiad drwy'r dydd. Cofrestrwch cyn dod gan fod lle i barcio yn brin. Cyfarfod 9.30 a.m. ar gyfer 10.00 a.m. |
Sadwrn 30 Mehefin |
Blodau ar Gomin Locks Dewch i weld ‘squinancywort’ a bresych y cŵn ymhlith amrywiaeth eang o blanhigion a dewch i weld planhigion blodeuol y cynefin calchfaen prin hwn. |
Sadwrn 14 Gorffennaf |
Tacluso’r Traeth Rydyn ni'n awyddus i dacluso arfordir Newton cyn tymor yr haf |
Sadwrn 21 Gorffennaf |
Penwythnos waliau sych. Amser cyfarfod a lleoliad i'w cadarnhau Cyfle i roi cynnig ar y sgil draddodiadol hon. Digwyddiad drwy'r dydd. Amseroedd a lle cyfarfod. I'w cadarnhau
|
Sadwrn a Sul 11 a 12 Awst |
Penwythnos waliau sych yn ............ Amser cyfarfod a'r lleoliad i'w cadarnhau Gallai'r penwythnos hwn fod yn gyflwyniad i'r sgil draddodiadol hon, neu’n gyfle i wella'ch sgiliau os gwnaethoch chi fynychu'r penwythnos yn gynharach yn y flwyddyn. Digwyddiad drwy'r dydd. Amseroedd a lle cyfarfod i'w cadarnhau
|
Dydd Sadwrn 8 Medi |
Glanhau Traeth Blwyddyn y Môr yn y Sgêr I gefnogi ymgyrch glanhau traethau Cymru gyfan. Cyfarfod yng Nghanolfan Warchodfa Cynffig am 9.30 a.m. i ddechrau 10.00 a.m. Tan 1.00 p.m. |
Sadwrn 29 Medi |
Prysgoedio yng Nghoed Tremains Mae Coed Tremains yn goetir pwysig sy'n elwa ar y math hwn o reolaeth draddodiadol. Cyfarfod wrth Driongl Bracla am 9.30 a.m. Digwyddiad drwy'r dydd. |
Sad 13 Hydref |
Prysgoedio yng nghoed Pwll y Brogaod Beth am roi cynnig ar reoli coetir yn draddodiadol a chreu cludair i gynefin! Digwyddiad drwy'r dydd. Cyfarfod yng Nghanolfan Gwarchodfa Cynffig am 9.30 a.m. Digwyddiad drwy'r dydd. |
27 Hydref |
Plygu gwrych. Cronfa Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt, Parc Slip. Dewch i roi cynnig ar y gelfyddyd hon sy’n diflannu o'r tir, ond archebwch le yn gynnar gan fod llefydd yn brin. Digwyddiad drwy'r dydd. Amseroedd a lle cyfarfod i'w cadarnhau. |
Sadwrn 10 Tachwedd |
Pla’r myr-rhafnwydd yn Nhwyni Newton Dewch i helpu i gael gwared ar y myr-rhafnwydd sy'n ymledu’n gyflym dros y twyni gan dagu fflora amrywiol y twyni tywod. Darperir offer a hyfforddiant. Cyfarfod ym Maes Parcio Beach Road am 9.00 a.m. (bydd y digwyddiad yn mynd ymlaen tan tua amser cinio). |
Sadwrn 17 Tachwedd |
Plygu gwrych. Cronfa Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt, Parc Slip. Dewch i roi cynnig ar y gelfyddyd hon sy’n diflannu o'r tir, ond archebwch le yn gynnar gan fod llefydd yn brin. Digwyddiad drwy'r dydd. Amseroedd a lle cyfarfod i'w cadarnhau. |
Sadwrn 24 Tachwedd |
Pla’r myr-rhafnwydd yn Nhwyni Newton Cyfle arall i helpu i gael gwared ar y myr-rhafnwydd sy'n ymledu’n gyflym dros y twyni gan dagu fflora amrywiol y twyni tywod. Cyfarfod ym Maes Parcio Beach Road am 9.00 a.m. (bydd y digwyddiad yn mynd ymlaen tan tuag amser cinio) |
Sadwrn 12 Ionawr 2019 |
Prysgoedio yng Nghoed Tremains Ffordd wych o gychwyn y flwyddyn newydd gyda'r gwaith rheoli coetiroedd traddodiadol hwn. Cwrdd ger Triongl Bracla am 9.30 a.m. Digwyddiad drwy'r dydd. |
Bydd pob digwyddiad yn cychwyn am 10.00 a.m. ac yn para tan 12.00 p.m. oni nodir fel arall.
Ar gyfer digwyddiadau Comin Locks, cwrdd yng ngorsaf yr achubwr bywyd. Ar gyfer Twyni Newton cwrdd ym maes parcio Beach Road. Ar gyfer digwyddiad Traeth Sgêr cwrdd yng Nghanolfan Gwarchodfa Natur Cynffig
Yn ychwanegol at yr uchod, byddwn yn trefnu digwyddiadau gwirfoddol eraill, gan gynnwys mwy o ddyddiau rheoli yn ein Gwarchodfeydd Natur Lleol. Bydd y gwaith yn cynnwys casglu sbwriel, gwaith cynnal a chadw a chofnodi rhywogaethau a bydd yn digwydd ar ddydd Gwener oni nodir fel arall. Y mannau cyfarfod ar gyfer y Gwarchodfeydd Natur Lleol yw:
Coed Tremains - Cyfarfod yng Nghanolfan Siopa'r Triongl
Coed Pwyll y Brogaod - Cwrdd wrth y Pwll Brogaod
Craig y Parcau - Cwrdd wrth fynedfa Craig y Parcau
Am ragor o fanylion am unrhyw un o'r digwyddiadau hyn, ffoniwch 01656 643160 neu e-bostiwch talktous@bridgend.gov.uk.